P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu 154 o lofnodion ar-lein ac 123 o lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 277 lofnodion wedi casglu.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni a miliynau o deuluoedd yng Nghymru’n wynebu tlodi tanwydd eithafol, mae’n bryd cyflwyno grantiau, sy'n agored i bawb, a fyddai'n caniatáu i holl bobl Cymru insiwleiddio eu cartrefi rhag y gwres a’r oerfel.

Mae'n frawychus bod gan Gymru rai o'r cartrefi â’r inswleiddio gwaethaf yn Ewrop i gyd. Byddai grant o 25 i 50 y cant tuag at gostau inswleiddio eiddo yn annog pobl i fuddsoddi i wneud eu cartrefi'n fwy ynni-effeithlon a lleihau eu hallyriadau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae blynyddoedd o danfuddsoddi mewn inswleiddio cartrefi Cymru wedi arwain at sefyllfa lle mae pobl yn agored i effeithiau’r cynnydd mewn prisiau ynni.

Dyna pam rydym yn galw am gyflwyno grantiau brys sydd ar gael i bawb fel y gall aelwydydd sy'n wynebu'r posibilrwydd o fod mewn cartrefi oer a llaith y gaeaf hwn dalu am fesurau inswleiddio syml. Mae angen Bargen Newydd Werdd sy’n agored i berchnogion tai, landlordiaid a chynghorau a fydd yn sicrhau bod cartrefi yn gynnes a chyfforddus, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn creu miloedd o swyddi gwyrdd.

Mae gan bawb yr hawl i gartref cynnes, ond eleni gallai miliynau o Gymry fod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta...rhaid peidio â chaniatáu i hynny ddigwydd!

Insiwleiddio yw un o'r dulliau mwyaf effeithlon o arbed ynni gan ei fod yn eich cadw'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf.

Dylai’r cwmnïau ynni, sy’n gwneud biliynau o elw pan fo cymaint yn ofni ynghylch cadw’n gynnes y gaeaf hwn, ddefnyddio eu helw i dalu am raglen insiwleiddio genedlaethol frys.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru